Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
9 Mai 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4982
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-4 a 6-9. Tynnwyd cwestiwn 5 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 2, 6 a 9 gan Weinidog yr Amgylchedd. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.18
Gofynnwyd cwestiynau 1, 3-7 a 9. Tynnwyd cwestiynau 2 ac 8 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Gweinidog Tai ac Adfywio. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 15.08
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth:
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn penderfyniad Virgin Media i gau ei ganolfan alwadau yn Abertawe gan arwain at golli dros 700 o swyddi?
Gofyn i’r Gweinidog Tai ac Adfywio:
Hefin David (Caerffili): Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU am y cynnig arfaethedig i ganoli swyddi presennol yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystâd ddiwydiannol Trefforest?
Dechreuodd yr eitem am 15.49
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad ar wythnos Ymwybyddiaeth o Dystonia (5–13 Mai).
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad ar Arglwyddes Rhondda, yn dilyn 60 mlynedd ers Deddf Arglwyddiaethau Oes yr wythnos flaenorol.
Dechreuodd yr eitem am 15.52
NDM6716 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau ar Brentisiaethau yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Chwefror 2018
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.00
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6719 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer treth trafodiadau tir ar drafodiadau tir masnachol dros £1 miliwn yn sylweddol uwch na'r cyfraddau cyfatebol ar gyfer trafodiadau o'r fath yn Lloegr (pump y cant) a'r Alban (4.5 y cant).
2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi cwblhau'r broses oddeutu £12 miliwn i brynu safle gorsaf bysiau Caerdydd ar 29 Mawrth 2018, gan felly osgoi ei chyfundrefn dreth trafodiadau tir ei hun gan dri diwrnod a sicrhau bod y trafodiad wedi digwydd o dan dreth dir y dreth stamp Llywodraeth y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru, yn sgil sylwadau gan y sector, i ailystyried y gyfradd newydd o chwech y cant ar gyfer y dreth trafodiadau tir newydd ar drafodion tir masnachol dros £1 miliwn a fydd yn cael effaith andwyol ar ddatblygu economaidd yng Nghymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
2 |
33 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) Y cymeradwywyd y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1 Ebrill 2018.
b) Nad oedd treth dir y dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o dan y gyfundrefn honno
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
12 |
12 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu pwerau newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6719 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) Y cymeradwywyd y cyfraddau a’r bandiau ar gyfer y dreth trafodiadau tir gan y Cynulliad Cenedlaethol ar 30 Ionawr 2018, na wnaeth unrhyw un o Aelodau’r Cynulliad bleidleisio yn eu herbyn, ac y daeth y cyfraddau a’r bandiau yn weithredol ar 1 Ebrill 2018.
b) Nad oedd treth dir y dreth stamp yn daladwy wrth brynu gorsaf fysiau Caerdydd ac y byddai’r gwerthiant wedi’i eithrio rhag y dreth trafodiadau tir pe bai wedi’i gwblhau o dan y gyfundrefn honno
Yn croesawu pwerau newydd sydd gan y Cynulliad i newid cyfraddau trethi yn ôl galw economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol Cymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu ei gwaith i adolygu'r holl drethi sy'n gysylltiedig ag eiddo.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
12 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6718 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a chymunedau.
2. Yn credu:
a) y bydd cynnig Llywodraeth Cymru ar gyfer isafbris uned o alcohol yn cael effaith ariannol andwyol ar y bobl dlotaf mewn cymdeithas; a
b) na fydd y gwerth arfaethedig o thua 50 ceiniog yr uned alcoholig yn llwyddo i wneud unrhyw newid sylweddol i faint o alcohol y mae'r rhai sy'n yfed llawer o alcohol yn gyson yn ei yfed.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r gorau i Fil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) a gwneud mwy i fynd i'r afael â chamddefnyddio alcohol heb orfod troi at isafbris fesul uned.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
0 |
44 |
49 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru).
Yn gresynu at yr effaith niweidiol y gall y Bil ei chael ar gyllidebau aelwydydd sydd ar incwm isel ac y gall arwain at droi at sylweddau anghyfreithlon yn lle alcohol.
Yn cefnogi diwygio'r Bil, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, er mwyn paratoi adroddiad gwerthuso sy'n cyfeirio at effeithiau isafbris drwy gyfeirio at grŵp oedran, rhyw a statws economaidd-gymdeithasol, y defnydd o gyffuriau eraill yn lle alcohol, trais yn y cartref, effaith ar wasanaethau cymorth a'r effaith ar fanwerthwyr alcohol.
[Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
38 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2. Julie James (Gorllewin Abertawe)
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd.
Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru.
Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.
[Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol]
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
34 |
0 |
15 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gan fod gwelliant 2 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM6718 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r problemau a achosir gan ddefnyddio alcohol mewn ffordd niweidiol a'r effaith difrodol y caiff camddefnyddio sylweddau ar deuluoedd a chymunedau.
2.Yn nodi Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) y mae’r Cynulliad Cenedlaethol yn craffu arno ar hyn o bryd.
3.Yn nodi bod yr isafbris uned arfaethedig am alcohol yn un o blith sawl mesur gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r niwed sy’n gysylltiedig â defnydd peryglus a niweidiol o alcohol yng Nghymru.
4.Yn nodi’r pecyn gwerth £50 miliwn o gymorth ar gyfer pobl sydd â phroblemau alcohol a defnyddio sylweddau yng Nghymru bob blwyddyn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
8 |
5 |
49 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 18.58
Dechreuodd yr eitem am 19.03
NDM6713 David Melding (Canol De Cymru)
Tai yn y cymoedd: treftadaeth y mae gwerth buddsoddi ynddi.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.26
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 15 Mai 2018